Wedi 3 Wedi 7

Rheolau'r Gêm

12 Gorffennaf 2010

Mae siop gemau newdd wedi agor yn Arcêd y Castell. Perchnogion y siop newydd, Rheolau'r Gêm, yw Ian a Michelle Davis. Meddai Michelle "Roeddem yn chwilio am brosiect newydd ers dwy flynedd a doedd dim siop gemau arbennig yng Nghaerdydd. Os ydych am brynu gêm mae'n bwysig iawn i siarad â expert gêms. Roeddem am sicrhau fod digon o gemau Cymraeg a gemau i blant. Mae grŵp mawr o bobl sy'n hoffi chwarae gemau ac mae nhw'n cwrdd ar benwythnosau ac mae lot o gemau cwlt. Mae gemau newydd modern lliwgar ar gael nawr sy'n llawer o hwyl i chwarae."

 

Brwydr i Baradwys?

29 Mehefin 2010

Ar Wedi 3 roedd Huw Thomas yn siarad am ei lyfr ymchwil newydd am y dylanwadau ar dwf ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru. Meddai Mr Thomas, cyn-brifathro Ysgol Gyfun Glantaf,  "Doedd neb wedi dadansoddi y dylanwadau ar dwf yr ysgolion Cymraeg sy'n gyfrifol, yn fy marn i, am achub yr iaith. Does dim amheuaeth fod rhieni a gwleidyddion wedi brwydro i gael ysgol ar ôl ysgol ac mae'r llyfr yn rhestru'r holl frwydro sydd wedi bod. Dwi yn credu fod rhieni y de-ddwyrain yn Gymry pybyr a'r prif reswm pam danfonon nhw eu plant i ysgol Gymraeg oedd oherwydd ei bod nhw'n diogelu'r Gymraeg"

   

Dathlu 40 Mlynedd

07 Mai 2010

Mae Clwb Pêl-droed Cymry Caerdydd yn dathlu 40 mlynedd ac eleni mae nhw wedi ennill y Gynghrair ac mae nhw yn ffeinal Cwpan Her Cymdeithas Pêl-droed Cymru am y tro cyntaf. Rhodri Charles a Dylan Jones fu'n sôn am hanes y Clwb ar Wedi 3.  "Mae'r Clwb yn griw gymdeithasol yn ogystal a bod yn glwb pêl-droed, mae rhan fwyaf o'r aelodau yn dod o'r Gogledd. Mae dau dîm gyda ni erbyn hyn ac mae criw eitha mawr yn cwrdd yn gymdeithasol. Mae croeso i unrhywun ymuno. Yn hanesyddol mae llawer o bobl wedi symud yn ôl i'w hardaloedd gwreiddiol ar ôl chwarae i'r clwb ond yn y dyfodol fydd rhaid i'r clwb edrych i weld os oes modd codi safon y chwarae. Rydym yn gobeithio sefydlu tîm ieuenctid gyda myfyrwyr o'r chweched dosbarth. Yn gyffredinol mae pawb yn y tîm yn siarad Cymraeg sy'n achosi trafferth i dimoedd eraill o Gaerdydd sydd ddim yn gwybod beth sy'n digwydd!"   

 

Clwb Rygbi ar y Brig

05 Mai 2010

O dîm rygbi yr Urdd a sefydlwyd yn 1963 cafodd Clwb Rygbi Cymry Caerdydd ei ffurfio ar ddiwedd y 60'au. Yn ôl y Llywydd, Martyn Williams, "Doedd dim gymaint o fewnlifiad o bobl i Gaerdydd yr adeg hynny cyn S4C a Datganoli. Erbyn hyn mae'n rhoi ffynhonell i bobl sy'n dod i'r ddinas i siarad Cymraeg mae o hefyd wedi galluogi hen aelodau o'r clwb i fynd i wahanol lefydd yng Nghymru i helpu sefydlu clybiau." Meddai Alun Guy, un o aelodau tîm gwreiddiol yr Urdd, "Roedd o'n hynod mewn ffordd - y tîm cyntaf i ddefnyddio'r Gymraeg ar y maes ac roedd y pobl oedd yn chwarae'n erbyn ni yn gwylltio braidd! Ges i'm mygwth sawl gwaith."   

 

 

 

 

 

   

Diwrnod Y Romani

08 Ebrill 2010

Ar Wedi 3 roedd Teleri Jarman Gray yn sôn am ei thras Romani. Mae hi wedi gwneud ymchwil yn y maes a chanfod mwy am ei chyn-deidiau ac am ffordd o fyw y Sipsiwn yng Nghymru. Meddai Teleri, "Mae nhw'n dweud mai Abraham Wood ddaeth â'r ffidil i Gymru ond pan welon nhw fod pawb yn canu'r delyn dysgon nhw ganu'r delyn ac er bod nhw wedi dod â miwsig eu hunain gyda nhw roedden nhw'n hoffi miwsig y Cymry ac roedden nhw'n plethu nhw at ei gilydd wedyn. Mae nhw wastod yn trio campio ar bwys afon ac wedyn mae'n nhw'n gallu golchi dillad a chael bath a pethe a wedyn roedden nhw'n gallu mynd allan a hel mwyar duon a unrhyw beth oedd i gael yn y wlad am ddim a lladd anifeiliad i fwyta wrth gwrs.

  "Nes i ddim ffeindio allan nes mod i'n 13 fy mod i'n dod o dras y Romani a wel roeddwn i mor falch, roeddwn i'n dipyn bach o rebel ac ro'n i'n gwybod o dan y croen fod na rhywbeth yn wahanol."

 

 

 

Arddangosfa Celf Gyfoes

31 Mawrth 2010

Mae'r curadur celf, Cat Gardener, wedi trefnu arddangosfa o waith deg artist yn y Cardiff Arts Institute yn 29 Park Place. 

Rhwng Mawrth 22 a Ebrill 12 bydd yr arddangosfa yn cynnwys gwaith newydd gan Huw Aaron, Jon Oakes, Tom Kitchen a Shaphan Cole, yn ogystal â gwaith y cynllunwyr Osian Batyka-Williams, sy'n paratoi ardangosfa yn y Barbican, Llundain a Debbie Smyth. 

Mae'r gweithiau i gyd ar werth am rhwng £25 a £1500 ac mae'r arddangosfa ar agor ar y lawr cyntaf o 12pm to 10pm, ac mae mynediad am ddim.

 Yn ôl Cat Gardiner "Dydi o ddim yn syniad newdd i gael arddangosfeydd dros dro, mae o yn rhan o bolisi lot o gynghorau dinasoedd i lenwi siopau gwag gyda celf." 

Yn ôl Huw Aaron, un o'r arlunwyr, "Mae'n gyffrous iawn fel artist i weithio gyda rhywun mor frwdfrydig â Cat sydd hefyd mor brofiadol yn y maes a sydd â chymaint o gysylltiadau yn y byd celf."

   

 

 

   

Tudalen 1 o 11