Datganiad i'r Wasg

Blodyn Newydd Gwawr

19 Ebrill 2010

Yng Ngŵyl Gerddi Caerdydd dadorchuddiwyd Cennin Pedr newydd a enwyd Gwawr i gynrychioli Mudiad Merched y Wawr. Syniad Llywydd Merched y Wawr, Esyllt Jones, oedd cael blodyn arbennig i Ferched y Wawr a gyda chymorth y Gymdeithas Arddwriaethol a tyfwr blodau yng Ngernyw dewiswyd y blodyn newydd. Dyma'r tro cyntaf i gennin pedr gael enw Cymraeg ac roedd y Merched yn falch iawn o'r lansiad yn yr Ŵyl. Y gobaith yw y bydd pob aelod o'r mudiad yn plannu'r blodyn newydd yn eu gerddi.  

 

 

 

Dathlu yn y Llyfrgell

28 Chwefror 2010

Bydd cerddoriaeth byw, adloniant a bwyd yn Llyfrgell Caerdydd i ddathlu Gŵyl Dewi.

O 6.30pm bydd Côr Aelwyd y Waun Ddyfal,   Dawnswyr Caerdydd, telynores a Derec Brown a'r Racaracwyr yn diddanu.

 

   

Gorymdaith Gŵyl Dewi

16 Chwefror 2010

Mae Gorymdaith Genedlaethol Dydd Gŵyl Dewi yn blodeuo’n fwy lliwgar a bywiog bob blwyddyn. Fe fydd yn digwydd, fel arfer, ar Fawrth 1af yng Nghaerdydd. Mae’r orymdaith ganol dydd yn casglu at ei gilydd ysgolion, bandiau, perfformwyr ac unigolion. Y llynedd, daeth dros chwe mil ynghyd i fwynhau sŵn y gerddoriaeth a hwyl y gwisgoedd a chwifio baneri. Mae’n brofiad unigryw sy’n dod â gwên i wyneb rhieni a phlant – felly dewch eleni i ymfalchïo yn ein treftadaeth!

 Mae croeso i bawb ymuno yn yr orymdaith trwy gofrestru ymlaen llaw.

Gorymdaith 2010:

Bydd llwybr y cerdded yn fyrrach o dipyn eleni:

Ymgasglu am 11.30  King Edward VII Avenue, wrth ymyl Neuadd y Ddinas a’r Llysoedd Barn

Cychwyn am 12.30, heibio’r Castell, ar hyd y Stryd Fawr ac ymlaen tuag at y Llyfrgell a chanolfan siopa newydd St David's2, gan orffen yn ysgwâr hanesyddol yr Aes. (llwybr derfynol i’w chadarnhau)

Bydd perfformio ar lwyfan yn yr Aes am awr neu fwy, wedi i’r orymdaith orffen.

A wnelai unrhyw fandiau, partïon dawns ac ysgolion a fyddai’n hoffi bod yn rhan o’r orymdaith gysylltu ar unwaith â Chydlynydd yr Orymdaith ar 029 2021 3629 neu e-bost:

Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it .

Bydd rhagor o newyddion yn ymddangos ar wefan www.stdavidsday.org (yn Gymraeg a Saesneg) toc lle y gellir cael adnoddau addysgol, cân Gŵyl Dewi a lluniau gorymdaith llynedd.

 

Dilyn Hanes Teulu yn yr Almaen

14 Ionawr 2010

Mae’r gyfres ddogfen O’r Galon yn dychwelyd nos Fawrth, 26 Ionawr gyda rhaglen ddogfen rymus sy’n dilyn teulu o Gymru i’r Almaen i ddarganfod mwy am ddioddefaint erchyll eu perthnasau yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
 
 
 
Ar drothwy Diwrnod Cofio’r Holocost, fe fydd O’r Galon: Y Trên i Ravensbrück yn portreadu taith emosiynol Heini Gruffudd, ei ferch Nona Gruffudd-Evans a’i ddwy wyres Gwenllian, 8, a Greta, 7,  i’r Almaen i ddeall mwy am yr hyn ddigwyddodd i’r Iddewon o dan ormes y Natsïaid.

Maen nhw’n mynd ar daith ddirdynnol i wersyll-garchar Ravensbrück yng ngogledd ddwyrain yr Almaen lle llofruddiwyd mam-gu Heini - Käthe Bosse - 65 mlynedd yn ôl.  Mae camerâu cwmni Rondo hefyd yn eu dilyn i ddinas frodorol y teulu, Lutherstadt Wittenberg lle mae trigolion y dref newydd osod cofeb fach ar y pafin er cof amdani.  Byddan nhw hefyd yn ymweld â rhai o gofebion Iddewig y brifddinas Berlin yng nghwmni perthnasau.

Mae Heini Gruffudd yn awdur, ymgyrchydd ac ymgynghorydd iaith amlwg – ond nid pawb sy’n gwybod am hanes trasig teulu ei fam yn Yr Almaen. 

Fe ddaeth diweddar fam Heini, Kate Bosse-Griffiths (1910-1998), draw i fyw ym Mhrydain cyn yr Ail Ryfel Byd. Ei bwriad oedd dianc rhag erledigaeth a rhagfarn y Natsïaid lle roedd eisoes wedi colli ei swydd yn Amgueddfa Eifftioleg Berlin oherwydd ei thras Iddewig. Yn Rhydychen, a hithau’n academydd Eifftoleg disglair, cyfarfu â’r Cymro J Gwyn Griffiths, cwympo mewn cariad, priodi a symud i Gymru lle y magon nhw ddau o blant yn Gymry pybyr, Heini a Robat, perchennog gwasg y Lolfa.

Yn ôl yn Yr Almaen, roedd bywyd yn anodd i’w rhieni hi, ei dau frawd, Günther a Fritz, a’i chwaer Dorothee gan fod tras Iddewig gan Käthe Bosse, eu mam. Er bod y teulu wedi gwneud pob ymdrech i ddilyn trefn Almaenig y dydd, ac yn Gristnogion yn yr Eglwys Lutheraidd yn y dref ers rhyw ddwy genhedlaeth, ar ôl ymdrech y Cadfridog Stauffenberg i saethu Hitler yng Ngorffennaf 1944, fe drodd y Natsïaid yn fwyfwy i dargedu Almaenwyr o dras Iddewig.  

Y flwyddyn honno arestiwyd y pum aelod o'r teulu Bosse oedd yn dal yn Wittenberg a’u hanfon i wahanol wersylloedd ac mae sut y goroesodd brodyr a chwaer Kate Bosse-Griffiths yn  destun ffilm ynddo’i hun. Goroesodd tad-cu Heini ond bu farw ychydig o flynyddoedd ar ôl y rhyfel, o dorcalon yn bennaf, yn ôl Heini.

Dywed Nona, 36, sy’n gweithio fel golygydd gyda CBAC yng Nghaerdydd, fod hanes y teulu yn yr Almaen yn dod yn bwysicach iddi wrth fynd yn hŷn.
 
Meddai Nona, “Roedd yn brofiad anodd iawn i fynd i’r gwersyll-garchar yn Ravensbrück a’r hyn sy’n dychryn fi yw bod y cwbl wedi digwydd yn y gorffennol agos. Gan fy mod yn awr yn fam i ddau o blant, mae’r cwmwl gyda fy hen fam-gu a’r teulu yn Yr Almaen yn dod yn bwysicach fyth.”  

O’r Galon: Y Trên i Ravensbrück
Nos Fawrth, 26 Ionawr, 9.00pm, S4C
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C
   

Safonau darlledu o dan y lach

16 Tachwedd 2009

Mae un o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd Cymru yn feirniadol o safonau darlledu presennol yn ei hunangofiant newydd, Mab y Mans, fydd yn cael ei lansio mewn derbyniad yn nhafarn Y Mochyn Du, Caerdydd ar ddydd Iau Tachwedd 19.  Yn ei lyfr, a gyhoeddir gan Y Lolfa, mae Arfon Haines Davies yn sôn am y gofal yr oedd cyflwynwyr yn arfer cymryd i ynganu geiriau ac enwau’n gywir.  Mae’r pwysigrwydd o ynganu cywir wedi aros gydag ef ar hyd ei yrfa ac mae’n cyfaddef bod cam-ynganu geiriau Cymraeg yn ei wylltio.
 
 
 
Dywedodd Arfon Haines Davies, “Yn fy nyddiau cynnar gyda HTV mi fyddai ITN yn ffonio’n gyson i ofyn sut roedd ynganu rhyw air Cymraeg, ac yn mynd i’r drafferth i’w gael yn gywir. Mi fydda i’n gwingo wrth glywed yr ymdrechion i ddweud enw Bryn Terfel heddiw, er enghraifft. Yn fwy aml na pheidio, mae’n cael ei alw’n ‘Tyrffl’. Pa mor anodd yw cymryd y ‘terr’ o terrace a’r ‘vel’ o velcro a’u rhoi at ei gilydd?”

Ymddangosodd Arfon ar y teledu yn 1975 ac yn y dyddiau cynnar hynny, cyn dyfodiad S4C, roedd yn darlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Arfon oedd un o’r bobl wnaeth agor y byd pop Cymraeg i gynulleidfa ehangach, trwy gyfresi poblogaidd fel Sêr.  Mae’n parhau i ddarlledu hyd heddiw, gyda’i gyfres archif Never To Be Forgotten.  

Dywedodd Arfon Haines Davies, “Fy merch Catrin sydd nawr yn 16 mlwydd oed wnaeth fy ysgogi i ysgrifennu fy hunangofiant a dwi’n ddiolchgar iawn iddi, achos mae’r profiad wedi bod yn un ffantastig a therapiwtig tu hwnt.  Roedd fy nhad yn ddylanwad mawr arna i ac un o’i hoff ddywediadau - ac roedd ganddo lawer – oedd ‘Cofiwch bob amser ddweud diolch’. Dwi wedi bod yn ffodus iawn yn fy ngyrfa - wedi bod yn y lle iawn ar yr amser iawn.  Dwi wedi cael teithio’r byd a chyfarfod arwyr di-ri.  Dwi’n gwerthfawrogi hynny’n fawr a dwi hefyd, trwy fy llyfr, eisiau diolch i bawb wnaeth fy helpu ar fy ffordd.”

 

CD Newydd Heather Jones

12 Tachwedd 2009

'Does dim angen cyflwyniad yng Nghymru i un o'n "trysorau cenedlaethol" -Heather Jones y feinwen o Gaerdydd sy'n meddu ar un o leisiau mwyaf adnabyddus y wlad.Yma mae'r "eicon" roc,pop a gwerin -a hithau'n dathlu penblwydd arbennig (!) yn ogystal â 40 mlynedd ym myd canu cyfoes yn 2009 yn cyflwyno casgliad cynhyrfus,amrywiol o'r gwerin a'r gwreiddiol gan rai o gyfansoddwyr amlycaf y byd canu cyfoes mewn cynhyrchiad graenus gan Tudur Morgan a recordiad safonol gan Simon Gardner yn ei stiwdio (Rockcliffe) yn Llandudno.

 

   

Tudalen 1 o 7