Ieuenctid
Bwa a Saeth mewn Ffasiwn
14 Ebrill 2010
Mae criw o bobl ifanc ardal Treganna wedi dechrau ymarfer bwa a saeth. Mae angen llawer o ymarfer i lwyddo mewn saethyddiaeth ac er fod croeso i bobl o bob oed i ymuno â'r clwb mae trefnwyr wedi synnu faint o bobl ifanc sydd wedi ymuno. Yn ôl Tina, hyfforddwraig y cwrs saethyddiaeth, "Ar ôl gorffen wythnos yma mae'r pobl ifanc yn bwcio yn syth ar gyfer wythnos nesaf. Ry'n ni'n gobeithio cael fwy o blant i ddod a nawr mae'r rhain yn gwybod beth mae nhw'n wneud ni'n gallu cael mwy o blant bob wythnos." Efallai fydd rai o sêr saethyddiaeth y dyfodol yn dod o'r neuadd fach yma yn Nhreganna.


Gwobr am Atal Bwlio
16 Gorffennaf 2009
Mae disgyblion Ysgol Plasmawr wedi derbyn gwobr am eu gwaith yn atal bwlian yn yr ysgol.
"Rydyn ni'n rhan o'r grŵp gwrth-bwlian Cynghorwyr Cam Cyntaf", meddai Nicole, "ac rydyn ni'n gwneud diwrnodau ABCh i ddysgu'r plant am gwrthbwlian, cyber bwlian a phopeth." Nawr mae nhw wedi ennill gwobr Gwrth-bwlian Tywysoges Diana.
"Mae cyfrifoldeb gyda ni y CCC i sicrhau nad oes unrhyw un yn yr ysgol yn teimlo ei fod wedi cael ei adael mas" meddai Cameron.
Sesiwn gan Nos Sadwrn Bach
01 Mai 2009
Ar rhaglen Huw Stephens C2 nos Lun 27 Ebrill chwaraewyd tri cân gan y grŵp ifanc o Gaerdydd, Nos Sadwrn Bach.
Link i > C2
Aelodau y grŵp yw Ianto, Llyr, Steffan, Garmon, Gareth, Rob, DJ

Caerdydd v Toulouse
08 Ebrill 2009
Ar Uned Pump nos Fercher roedd Jamie a Nicky Robinson dau aelod o dîm y Blues yn trafod y gêm bwysig Cwpan Heineken yn erbyn Toulouse.
Hefyd roedd y ddau frawd yn trafod y ffaith eu bod yn gadael Caerdydd. Mae Jamie Robinson yn mynd i de Ffrainc a Nicky Robinson yn mynd i Gaerloyw ar ôl 8 mlynedd yn chwarae rygbi i Gaerdydd.

