Arall

Sêr ar Noson Lawen

26 Rhagfyr 2009

Ymhlith y sêr ar Noson Lawen y Nadolig roedd Bechgyn Bro Taf

 

 

 

Ail-greu Ffalabalam

24 Rhagfyr 2009

Yn y rhaglen Lle Aeth Pawb? roedd Kevin Davies a Ceri Tudno wedi mynd i chwilio am blant o Ysgol Gwaelod y Garth a fu'n cymryd rhan yn rhaglen Nadolig 1989. Daeth 10 o'r plant i yn ôl i stiwdio HTV i ail-greu yr olygfa.

  

 

   

Dillad Arweinydd

22 Medi 2009

Tim Rhys Evans, arweinydd Only Men Aloud, oedd ar Cwpwrdd Dillad yn dangos rhai o'i hoff ddillad. "Dwi'n dwli ar y cynllunydd Vivienne Westwood. Prynes i'r crys yn y sêl yn Llundain - bargain ffantastig - dwi'n dwli ar y toriad, y ffordd mae lot o theatre yn y cynllun. Chi'n teimlo dipyn bach yn arbennig yn gwisgo rhywbeth fel 'na."  
 
 
 
 
 
 
 

Dechrau Canu yn y Bae

20 Medi 2009

Ardal y Bae oedd dan sylw yn Dechrau Canu Dechrau Canmol. Sioned James oedd yn arwain y gynulleidfa tu allan i Ganolfan y Mileniwm a chafwyd sgwrs gyda'r Parch Alun Tudur. Bu'n sôn am long y Logos Hope ddaeth i'r dociau yn ddiweddar. "Pwrpas y llong ydi rhannu llenyddiaeth Cristnogol ar hyd a lled y byd.  Lle bynnag mae'r llong yn angori mae nhw'n trio rhannu gwybodaeth ac mae llyfrgell a siop enfawr ar y llong, rhoi cymorth ymarferol yn helpu'r di-gartref, a hefyd mae cymuned o wirfoddolwyr ar y llong fel pentref Cristnogol sy'n trio rhannu gobaith a llawenydd lle bynnag mae nhw'n mynd."  

 

 

 

   

Ymweld â Rhandiroedd Rhydypenau

09 Medi 2009

Aeth Bethan Gwanas i ymweld â'r rhandiroedd yn Rhypenau a chwrdd â rhai o'r garddwyr prysur ar y rhaglen Byw yn yr Ardd.

Mae Elen King a'i theulu wedi bod yn garddio yno am dair blynedd a dywedodd fod yn braf cael tyfu llysiau iach. Mae cnwd da o ffa a tatws eleni ac mae tomatos yn y tŷ gwydr.  

 

Mae Paul Morgan wedi cael rhandir yno ers 1970 ac mae'n le i gwrdd a phobl a theuluoedd newydd.  

 

 

 

Ffarwelio â Pharc Ninian

12 Mai 2009

Ar Sgorio roedd Ali Yassine yn ffarwelio â maes chwarae tîm pêl-droed Caerdydd ar ôl blynyddoedd o gefnogi'r clwb ac wyth mlynedd fel y cyhoeddwr ar uchelseinydd y maes.

Dywedodd, "Ar y cyfan mae wedi bod yn crap i fod yn ffan o Gaerdydd a'r chwaraewyr wedi ein siomi ni, ond da ni rhan o deulu Caerdydd a dyna sy'n gludo ni at ein gilydd."