Y Cymro

Cymric ar y Brig

28 Mai 2010

Yn y Cymro mae hanes Clwb Pêl-droed y Cymric yn ennill y dwbwl. Mae Clwb y Cymric, clwb pêl-droed Cymraeg Caerdydd, newydd ddathlu 40 mlynedd ac i gwblhau tymor llwyddiannus iawn mae'r tîm cyntaf wedi ennill Uwch Gynghrair Caerdydd a Chwpan Cymdeithas Pêl-droed De Cymru.

 

 

Teyrneg i Dockrad

21 Mai 2010

Mae Hefin Jones yn Y Cymro yn ffarwelio ag un o'r labeli recordiau mwyaf dylanwadol yn ystod y ddegawd diwethaf.  

Dai Lloyd, sydd ar hyn o bryd yn rheolwr y Fuwch Goch, sefydlodd Dockrad gyda chyhoeddi record cyntaf y grŵp Skep. Ond bydd Dai yn ymfudo i fyw i Canada yn yr haf gan ddod a cyfnod arbennig yn hanes y byd pob yng Nghymru i ben.

Bydd Dockrad yn dod i ben drwy gyhoeddi record aml-gyfranog sy'n cynnwys y traciau gorau gan rhai o'r grŵpiau enwog fu'n rhan o'r stabl yn cynnwys Howl Griff, Ashokan, Gilespi a Saizmundo.    

 

 

   

Codi Ymwybyddiaeth am Cancr y Fron

16 Hydref 2009

Nos Iau 22 Hydref darlledir Blodyn Haul: Stori Heulwen Haf am y modd bu raid iddi wynebu a cheisio trechu canser y fron. "Dwi'n gobeithio'n fawr y bydd yn cymryd yr ofn i ffwrdd o feddyliau pobl," meddai. "Mae gwneud y rhaglen hon wedi bod yn help mawr i mi."
 
 

Dai Lloyd yn ffarwelio â'r Cymro

11 Medi 2009

Mae 'Barn am y sîn', erthyglau Dai Lloyd yn Y Cymro yn dod i ben.  Bu'n paratoi'r erthyglau, sy'n trafod y grŵpiau pop diweddaraf, am flwyddyn a hanner a bydd bwlch mawr ar ei ôl. Dai Lloyd sy'n gyfrifol am label recordiau Dockrad. 

 

   

Glyn Wise yn astudio yng Nghaerdydd

04 Medi 2009

Daeth Glyn Wise yn enwog drwy fod yn un o sêr y gyfres Y Brawd Mawr ar Channel 4 ond erbyn hyn mae'n astudio Cymraeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Yn Y Cymro mae'n sôn am y profiad oedd o wedi cael ar y gyfres ac am ei uchelgais  "i fod yn athro Cymraeg yn rhywle fel Caerdydd a gwneud gwersi yn ddifyr fel bo' plant yn edrych ymlaen atyn nhw."

 

 

Newyddion Sara Gibson

21 Awst 2009

Yn Y Cymro mae Sara Gibson yn sôn am y gwaith o fod yn rhan o dîm cyflwyno rhaglen newyddion S4C a bod yn fam brysur. Mae Sara wedi ei geni a'i magu yn Radur ac mae hi'n ffodus fod ei rhieni yn gallu helpu gofalu am ei merch. Mae Sara yn disgwyl ei hail blentyn ym mis Tachwedd.

 

   

Tudalen 1 o 3