Ysgolion

Tîm Pêl-rwyd y Berllan Deg

20 Chwefror 2010

Llongyfarchiadau i tîm pêl-rwyd Ysgol y Berllan Deg ar gyrraedd y rowndiau cyn-derfynol yn Nhwrnament Cenedlaethol Pêl-rwyd yr Urdd.   Roeddynt wedi chwarae yn arbennig o dda ac yn haeddu cyrraedd mor bell.

 

 

Dathlu Cyfraniad Pennaeth

18 Rhagfyr 2009

Yn dilyn gwasanaeth am chwarter canrif fel prif-athrawes yn Ysgol Gynradd Mount Stuart mae Mrs Yvonne Scott yn ymddeol heddiw.  Meddai Mrs Scott "Nawr dwi'n dysgu plant i'r plant a fu yn yr ysgol ar y cychwyn, mae wedi bod yn brofiad ardderchog. Pan ddechreuais i yma tua cant o blant oedd yn yr ysgol i gyd llawer o'r plant o dras affro-caribiaidd nawr mae llawer mwy o blant Arabia a Somalia. Mae'n gymuned glos iawn ac mae wedi bod yn brofiad arbennig i fod yn rhan o'r gymuned yma."    

 

   

Siarad Cyhoeddus yn Durham

30 Medi 2009

Penwythnos diwethaf yn Durham cynhaliwyd rownd derfynol cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Senedd Ewrop. Roedd Ysgol Glantaf yn cynrychioli De Cymru yn y gystadleuaeth a bu Carwyn Graves ar Wedi 3 yn dweud yr hanes. "Roedd yn brofiad bythgofiadwy i fod yn y rownd derfynol, ni oedd yr unig ysgol y wladwriaeth, roedd yr ysgolion eraill i gyd yn ysgolion ramadeg neu ysgolion bonedd. Y rhai mwy breintiedig yn Lleogr oedd yn cystadlu yn ein herbyn ni. Ond oedd eu safon nhw a'u dealltwriaeth o faterion ymhell uwchben   beth allwn ni obeithio amdano. Ar y diwedd gawsom drafodaeth mewn ieithoedd tramor a penderfynon ni siarad yn Gymraeg."

 

 

Disgyblu Athrawes Ysgol y Berllan Deg

25 Medi 2009

Mae athrawes gynradd wedi cael ei gwahardd rhag dysgu am flwyddyn wedi i wrandawiad ddisgyblu benderfynu y bu'n bwlio ei disgyblion. Clywyd yn y gwrandawiad fod yr athrawes oedd yn dysgu yn Ysgol y Berllan Deg yn rheoli ei dosbarth mewn dull militaraidd. Ymddiswyddodd yr athrawes yn 2007 ar ôl cael ei gwahardd dros-dro yn sgil y cwynion.

 

 

   

Bwyta'n iach yn Berllan Deg

23 Medi 2009

Ar Ffeil roedd plant Ysgol y Berllan Deg yn sôn am ymarfer corff yn ystod wythnos Byw'n Iach y Cynulliad. Mae'r pwyslais yn yr ysgol ar ymarfer corff - rhedeg, cicio pêl a chadw'n ystwyth a bwyta'n iach - ffrwythau banana, gwrawnwyn ac afalau. Nod y Cynulliad yw cael holl bobl Cymru i newid eu bywydau a gwneud rhywbeth newydd - bwyta mwy o lysiau neu dawnsio!

 

 

 

 

Adeiladau Newydd yn Ysgol Plasmawr

17 Medi 2009

Agorwyd dau floc o adeiladau newydd yn Ysgol Plasmawr ar gyfer adrannau Technoleg a Chelf a'r Ganolfan Cynnal Dysgu. Gyda nifer o welliannau eraill mae'r ysgol yn teimlo fel ysgol newydd sbon!

Mae rhagor o newyddion am yr ysgol a llwyddiannau diweddar yn  Newyddion Plasmawr:  Medi 2009

 

   

Tudalen 1 o 3