Western Mail

Dyrchafu Fflur

05 Mai 2010

Mae cwmni cyfreithwyr Darwin Gray wedi dyrchafu Fflur Jones i fod yn un o bartneriaid y cwmni. Daw Fflur Jones o'r Bala yn wreiddiol a dechreuodd weithio i Darwin Gray yn 2003 ar adeg pan oedd y Cwmni yn cael ei sefydlu. Mae hi'n un o 11 partner y cwmni ac mae'n arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth.

   

 

Cartref Delyth

17 Ebrill 2010

Yn Adran Cartrefi y Western Mail mae erthygl am gartref Delyth Willis, pennaeth cysylltiadau cyhoeddus yr RSPB. 

Mae hi wrth ei bodd yn ei chartref yn Sblott sy'n dyddio o ddiwedd yr 1800'au. Y lolfa oedd yr ystafell gyntaf i'w addurno a'i dymuniad oedd cael o i gyd yn wyn gyda soffa gwyn a llenni glas llachar i ddod â lliw i'r ystafell.   

 

   

Cyngor ar Gyflogaeth i S4C

06 Chwefror 2010

Mae cwmni Capital Law wedi ennill cytundeb i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol a chyngor ar gyflogaeth i gwmniau teledu annibynnol yng Nghymru.

Mae Siôn Clwyd Roberts, a fu'n bennaeth materion busnes ITV Cymru, yn ymuno â Capital Law ac yn gweithio gyda phennaeth yr adran gyflogaeth, Elin Pinnell, a'r cyfreithiwr cyflogaeth, Iestyn Morris.

 

 

 

Cymdeithasu yn y Gegin

22 Tachwedd 2009

Mae Gareth Roberts, cyflwynydd Y Clwb Rygbi ar S4C, yn mwynhau cael cyfeillion draw i'w gegin a chael glasiad o wîn tra'n paratoi'r bwyd. Mae'n mwynhau coginio ac yn aml mae'n rhaid iddo rhoi galwad ffôn am gyngor i'w gyfaill Padrig Jones fu'n gweithio yn Le Gallois ond sydd newydd gymryd drosodd y King's Arms ym Mhentyrch. 

 

   

Cyrsiau Cymraeg ar UCAS

12 Tachwedd 2009

Disgyblion Ysgol Glantaf fu'n profi sustem newydd ar wefan UCAS fydd yn dangos y dewis o gyrsiau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngholegau Cymru. 

Am wybodaeth bellach ewch i www.ucas.com/astudioynygymraeg 

 

 

Colli Athrawes

06 Awst 2009

Bu farw Fflur Bedwyr  mewn damwain difrifol ger Heol yr Eglwys Gadeiriol  dydd Mawrth. Yn wreiddiol o Llandudoch, bu'n byw yng Nglanyrafon, Caerdydd ers rhai blynyddoedd ac yn dilyn cyfnod fel athrawes yn Ysgol Gyfun Glantaf aeth i ddysgu Addysg Grefyddol yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yn 2002. Talwyd teyrngedau iddi gan Dr Dylan Jones, prifathro'r ysgol, a gan nifer o'i dysgyblion a fu'n gosod blodau i'w choffau ger fynedfa'r ysgol. Roedd Fflur yn weithgar gyda UCAC ac hefyd yng Nghapel Ebeneser, Caerdydd.

 

   

Tudalen 1 o 3