Newyddion BBC

Protest yn erbyn Llosgydd Gwastraff

21 Awst 2010

Bu protest tu allan i swyddfa Asiantaeth yr Amgylchedd am y bwriad i godi Llosgydd Gwastraff yn ardal Dociau Caerdydd. Bydd hwn yr un fwyaf o'i fath yng Nghymru ac yn creu ynni drwy losgi sbwriel. Mae pryderon am y datblygiad a meddai Andrea Storer, "Dwi'n byw yn Sblott ac mae gen i ddau o blant bach sy'n mynd i'r ysgol leol a dwi'n wir yn poeni am y llygredd fydd yn dod allan o'r llosgydd sbwriel a'r effaith fydd hynny'n cael ar iechyd y plant ac hefyd ar yr amgylchedd."

  

 

Ymgyrch Maes Chwarae Trelai

24 Gorffennaf 2010

Mae ymgyrch yn Trelai i droi hen lawnt fowlio yn faes chwarae i blant. Ar hyn o bryd does yr un lle addas i blant chwarae. Yn ôl Kathy Farleigh. un o'r rhieni, "Mae'r ardal yn edrych yn ofnadwy ond mae angen symud y ffens fel bod plant yn gallu chware ar y cae a chwarae pêl-droed." Mae ymgyrchwyr wedi cael cymorth cynllunwyr a pheintwyr i greu syniadau ar gyfer yr ardal. 

Meddai Lisa Marie Bracey, rhiant, "Mae llawr o blant yn defnyddio'r ardal ond ddim mewn ffordd dda, does dim byd iddyn nhw wneud. Mae angen rhywbeth fel pêl-fasged neu rhywle i chwarae pêl-droed ar gyfer plant o bob oed."

 

   

Llosgfynydd yn atal awyrennau

16 Ebrill 2010

Mae ffrwydriad y llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ wedi achosi problemau di-ri i deithwyr wrth i hedfan dros wledydd Prydain gael ei atal yn llwyr dydd Iau. Mae canoedd o filoedd o deithwyr wedi methu cychwyn ar ei teithiau a gwyliau ac mae llawer iawn o bobl ar draws y byd yn methu dychwelyd adref.  

Mae llawer iawn o deithwyr oedd yn bwriadu hedfan adref wedi chwilio am ffyrdd eraill o deithio.  Roedd Siwan Jobbins yn gweithio yn Ne Ffrainc ac meddai "Yr opsiwn gorau i ni oedd mynd i Paris, felly hedfanon ni i Baris ond doedd dim ceir ar gael achos oedd pawb wedi llogi car yn gynharach yn y bore so oedd rhaid i ni gael tacsi i fynd â ni o Baris i Calais a chroesi drosodd i Dover a chael tacsi o Dover adref."     

 

 

Canolfan Dŵr Gwyn yn Agor

24 Mawrth 2010

Mae Canolfan Dŵr Gwyn Caerdydd yn agor dydd Sadwrn. Mae'r cwrs canwio a rafftio wedi costio £13m ac mae modd cynnal cystadlaethau rhyngwladol arno. 

Yn ôl Sian Parry-Jones o Gyngor Caerdydd "Mae hwn yn ddatblygiad hynod o gyffrous o ran twristiaeth i ni yma yng Nghaerdydd."

 

 

 

 

   

Gwerthu Capel Ebeneser

16 Chwefror 2010

Mae Capel Ebeneser wedi ei werthu i ddatblygwyr. Penderfynodd yr aelodau werthu'r capel, sydd yn Charles Street ger Marks and Spencer yng nghanol y ddinas, a cynhelir yr oedfa olaf ym mis Gorffennaf. Dywedodd y Gweinidog, y Parch Alun Tudur, "Oedd yr adeilad yn arfer bod yn achos annibynnol Saesneg ond fe brynwyd ein hen gapel ni lle mae Canolfan Dewi Sant  a symudodd y gynulleidfa i'r capel yma yn 1980. Does dim pwynt i ni bryderu am ddefnyddd yr adeilad oherwydd does dim rheoaleth ar beth fydd yn digwydd." 

 

Y capel presennol

 

Agorwyd yr Ebeneser gwreiddiol yn 1828 ar y llecyn lle saif siop Debenhams erbyn hyn yng Nghanolfan Dewi Sant.  

 

 

Siomi ar Gytundeb Newid Hinsawdd

20 Rhagfyr 2009

Ymateb cymysg ddaeth i'r cytundeb ar ddiwedd cynhadledd Newid Hinsawdd yn Copenhagen gyda'r gwledydd bychain yn dweud nad yw'r cytundeb yn mynd digon pell ac nad oes oblygidau cyfreithiol. Meddai Lila Haines o Oxfam Cymru "Rydyn ni'n siomedig iawn o safbwynt y miliwnau o bobl gwledydd y byd rydyn ni'n gweithio gyda nhw sydd yn dioddef yn barod o newid hinsawdd. Dydi o ddim yn deg i alw fo yn gytundeb, mae o yn fwy o obaith nag o addewid."

 

 

 

   

Tudalen 1 o 11