Digwyddiad Cymraeg

Llanw Bwlch

06 Gorffennaf 2010

Nos Fawrth lansiwyd llyfr newydd gan un o hoelion wyth byd addysg yr ardal.

Ar ôl cyfnod o 40 mlynedd fel un o hoelion wyth dysgu’r Gymraeg fel ail iaith, mae John Albert Evans yn mynegi ei farn yn blwmp ac yn blaen am rai o sefydliadau mwyaf parchus y genedl. Sefydliadau sy’n cynnwys ysgolion Caerdydd a de-ddwyrain Cymru, yr Urdd a Nant Gwrtheyrn. Mae Llanw Bwlch yn fwy na hunangofiant: mae’n agoriad llygad.

Wrth ein tywys ar ei siwrnai o gefn gwlad Ceredigion i’r brifddinas, a thu hwnt i honno i bellafoedd America ac Awstralia, mae’r awdur yn cwmpasu cyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru, ac yn codi llen ar un o lwyfannau cudd y 1960au a’r 1970au wrth i ddrama tynged yr iaith Gymraeg gael ei hysgrifennu y tu ôl i ddrysau caeëdig. Dyma atgofion difyr, ac o bosibl, dadleuol.

LLANW BWLCH
gan John Albert Evans 
Gwasg Gomer £7.99

 

Cyngerdd Teyrnged i David Lloyd, Ebrill 24ain

10 Mawrth 2009

 

Bydd cyfle unigryw i fwynhau llais y tenor, Rhys Meirion, wrth iddo gloi cyfres o gyngherddau teyrnged i'r anfarwol David Lloyd, yng Nghapel y Tabernacl, yr Ais, Caerdydd, ar nos Wener Ebrill 24ain am 7.30 o’r gloch. Hon fydd yr unig gyngerdd yn Ne Cymru ymhlith y pum performiad ar y daith. Mae’n 40 mlynedd bellach ers i David Lloyd farw, ac yntau ond yn 57 oed, ond mae cof am ei lais unigryw a melfedaidd yn parhau yn fyw ar draws Cymru, a’i recordiau'n gyfarwydd o hyd ar raglenni radio. Mae cwmni Sain hefyd newydd ryddhau casgliad cynhwysfawr o’i waith ar dri crynoddisg dan y teitl ‘David Lloyd – Y Llais Arian’I nodi 40 mlynedd ers ei farwolaeth mae Donald Lloyd, nai David Lloyd, wedi cydweithio gyda Rhys Meirion i drefnu’r gyfres hon o gyngherddau. Meddai Rhys Meirion, "Roedd rhywbeth arbennig iawn yn ei lais oedd yn gallu cyffwrdd cynulleidfa.... Roedd pobl yn ciwio am oriau i fynd i’w gyngherddau – roedd o’n eilun i’r genedl," .Yn ogystal a dehongliadau Rhys Meirion o’r  gweithiau a wnaed yn enwog gan David Lloyd, bydd Don Lloyd yn cyfrannu nifer o atgofion am ei ewythr, a oedd yn ffefryn mawr yn eu teulu.

Roedd David Lloyd yn hannu o Drelogan, yn un o saith o blant  glowr a weithiai’n y ‘Parlwr Du’ yn Sir y Fflint. Er iddo adael yr ysgol i’w brentisio’n saer, yn fuan enillodd ysgoloriaeth i goleg cerdd Guildhall yn Llundain. Ni fyddai’r teulu wedi gallu fforddio ei gynnal yno heblaw am yr ysgoloriaeth a enillwyd yn erbyn cystadleuaeth gref iawn.

Yn y Guildhall, enillodd David Lloyd pob gwobr oedd ar gael, gan gynnwys Gwobr Catherine Howard i denoriaid, a her unawd y coleg,. ond tarfu’r Rhyfel Byd ar ei yrfa disglair fel prif denor Saddlers Wells. Yn 1954 daeth trasiedi arall i’w ran pan ddisgynodd a thorri asgwrn ei gefn tra’n recordio rhaglen i’r BBC ac er iddo wella, nid oedd yn gallu sefyll yn syth i ganu byth wedyn.Fel David Lloyd, astudiodd Rhys Meirion yn y Guildhall, ac yn y Glyndbourne yr ymddangosodd gyntaf ar lwyfan opera - fel y gwnaeth David Lloyd yn 1938. Nid efelychu arddull David Lloyd y bydd Rhys, ond yn hytrach rhoi ei ddehongliadau ef o hen ffefrynnau ei ragflaenydd. Bydd y gyfeilyddes enwog Annette Bryn Parry yn ychwanegu ei doniau at gyfraniad Rhys Meirion a Don Lloyd, a bydd tocynnau ar gael am bris £10 gan aelodau Eglwys y Tabernacl, neu yn Siop y Caban, Pontcanna, neu Siop y Felin, Yr Eglwys Newydd
   

Clwb Bach y Diwc

04 Mawrth 2009

 Bydd y Clwb yn cynnal gweithgaredd arbennig i blant ar 20 Mawrth

 

 

 

Noson Carolau

06 Rhagfyr 2008

Y Mochyn Du Nos Lun 8 Rhagfyr gyda Côrdydd