Newyddion

Blodyn Newydd Gwawr

19 Ebrill 2010

Yng Ngŵyl Gerddi Caerdydd dadorchuddiwyd Cennin Pedr newydd a enwyd Gwawr i gynrychioli Mudiad Merched y Wawr. Syniad Llywydd Merched y Wawr, Esyllt Jones, oedd cael blodyn arbennig i Ferched y Wawr a gyda chymorth y Gymdeithas Arddwriaethol a tyfwr blodau yng Ngernyw dewiswyd y blodyn newydd. Dyma'r tro cyntaf i gennin pedr gael enw Cymraeg ac roedd y Merched yn falch iawn o'r lansiad yn yr Ŵyl. Y gobaith yw y bydd pob aelod o'r mudiad yn plannu'r blodyn newydd yn eu gerddi.  

 

 

 

Dathlu yn y Llyfrgell

28 Chwefror 2010

Bydd cerddoriaeth byw, adloniant a bwyd yn Llyfrgell Caerdydd i ddathlu Gŵyl Dewi.

O 6.30pm bydd Côr Aelwyd y Waun Ddyfal,   Dawnswyr Caerdydd, telynores a Derec Brown a'r Racaracwyr yn diddanu.

 

   

Tîm Pêl-rwyd y Berllan Deg

20 Chwefror 2010

Llongyfarchiadau i tîm pêl-rwyd Ysgol y Berllan Deg ar gyrraedd y rowndiau cyn-derfynol yn Nhwrnament Cenedlaethol Pêl-rwyd yr Urdd.   Roeddynt wedi chwarae yn arbennig o dda ac yn haeddu cyrraedd mor bell.

 

 

Gorymdaith Gŵyl Dewi

16 Chwefror 2010

Mae Gorymdaith Genedlaethol Dydd Gŵyl Dewi yn blodeuo’n fwy lliwgar a bywiog bob blwyddyn. Fe fydd yn digwydd, fel arfer, ar Fawrth 1af yng Nghaerdydd. Mae’r orymdaith ganol dydd yn casglu at ei gilydd ysgolion, bandiau, perfformwyr ac unigolion. Y llynedd, daeth dros chwe mil ynghyd i fwynhau sŵn y gerddoriaeth a hwyl y gwisgoedd a chwifio baneri. Mae’n brofiad unigryw sy’n dod â gwên i wyneb rhieni a phlant – felly dewch eleni i ymfalchïo yn ein treftadaeth!

 Mae croeso i bawb ymuno yn yr orymdaith trwy gofrestru ymlaen llaw.

Gorymdaith 2010:

Bydd llwybr y cerdded yn fyrrach o dipyn eleni:

Ymgasglu am 11.30  King Edward VII Avenue, wrth ymyl Neuadd y Ddinas a’r Llysoedd Barn

Cychwyn am 12.30, heibio’r Castell, ar hyd y Stryd Fawr ac ymlaen tuag at y Llyfrgell a chanolfan siopa newydd St David's2, gan orffen yn ysgwâr hanesyddol yr Aes. (llwybr derfynol i’w chadarnhau)

Bydd perfformio ar lwyfan yn yr Aes am awr neu fwy, wedi i’r orymdaith orffen.

A wnelai unrhyw fandiau, partïon dawns ac ysgolion a fyddai’n hoffi bod yn rhan o’r orymdaith gysylltu ar unwaith â Chydlynydd yr Orymdaith ar 029 2021 3629 neu e-bost:

Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it .

Bydd rhagor o newyddion yn ymddangos ar wefan www.stdavidsday.org (yn Gymraeg a Saesneg) toc lle y gellir cael adnoddau addysgol, cân Gŵyl Dewi a lluniau gorymdaith llynedd.

   

Dilyn Hanes Teulu yn yr Almaen

14 Ionawr 2010

Mae’r gyfres ddogfen O’r Galon yn dychwelyd nos Fawrth, 26 Ionawr gyda rhaglen ddogfen rymus sy’n dilyn teulu o Gymru i’r Almaen i ddarganfod mwy am ddioddefaint erchyll eu perthnasau yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
 
 
 
Ar drothwy Diwrnod Cofio’r Holocost, fe fydd O’r Galon: Y Trên i Ravensbrück yn portreadu taith emosiynol Heini Gruffudd, ei ferch Nona Gruffudd-Evans a’i ddwy wyres Gwenllian, 8, a Greta, 7,  i’r Almaen i ddeall mwy am yr hyn ddigwyddodd i’r Iddewon o dan ormes y Natsïaid.

Maen nhw’n mynd ar daith ddirdynnol i wersyll-garchar Ravensbrück yng ngogledd ddwyrain yr Almaen lle llofruddiwyd mam-gu Heini - Käthe Bosse - 65 mlynedd yn ôl.  Mae camerâu cwmni Rondo hefyd yn eu dilyn i ddinas frodorol y teulu, Lutherstadt Wittenberg lle mae trigolion y dref newydd osod cofeb fach ar y pafin er cof amdani.  Byddan nhw hefyd yn ymweld â rhai o gofebion Iddewig y brifddinas Berlin yng nghwmni perthnasau.

Mae Heini Gruffudd yn awdur, ymgyrchydd ac ymgynghorydd iaith amlwg – ond nid pawb sy’n gwybod am hanes trasig teulu ei fam yn Yr Almaen. 

Fe ddaeth diweddar fam Heini, Kate Bosse-Griffiths (1910-1998), draw i fyw ym Mhrydain cyn yr Ail Ryfel Byd. Ei bwriad oedd dianc rhag erledigaeth a rhagfarn y Natsïaid lle roedd eisoes wedi colli ei swydd yn Amgueddfa Eifftioleg Berlin oherwydd ei thras Iddewig. Yn Rhydychen, a hithau’n academydd Eifftoleg disglair, cyfarfu â’r Cymro J Gwyn Griffiths, cwympo mewn cariad, priodi a symud i Gymru lle y magon nhw ddau o blant yn Gymry pybyr, Heini a Robat, perchennog gwasg y Lolfa.

Yn ôl yn Yr Almaen, roedd bywyd yn anodd i’w rhieni hi, ei dau frawd, Günther a Fritz, a’i chwaer Dorothee gan fod tras Iddewig gan Käthe Bosse, eu mam. Er bod y teulu wedi gwneud pob ymdrech i ddilyn trefn Almaenig y dydd, ac yn Gristnogion yn yr Eglwys Lutheraidd yn y dref ers rhyw ddwy genhedlaeth, ar ôl ymdrech y Cadfridog Stauffenberg i saethu Hitler yng Ngorffennaf 1944, fe drodd y Natsïaid yn fwyfwy i dargedu Almaenwyr o dras Iddewig.  

Y flwyddyn honno arestiwyd y pum aelod o'r teulu Bosse oedd yn dal yn Wittenberg a’u hanfon i wahanol wersylloedd ac mae sut y goroesodd brodyr a chwaer Kate Bosse-Griffiths yn  destun ffilm ynddo’i hun. Goroesodd tad-cu Heini ond bu farw ychydig o flynyddoedd ar ôl y rhyfel, o dorcalon yn bennaf, yn ôl Heini.

Dywed Nona, 36, sy’n gweithio fel golygydd gyda CBAC yng Nghaerdydd, fod hanes y teulu yn yr Almaen yn dod yn bwysicach iddi wrth fynd yn hŷn.
 
Meddai Nona, “Roedd yn brofiad anodd iawn i fynd i’r gwersyll-garchar yn Ravensbrück a’r hyn sy’n dychryn fi yw bod y cwbl wedi digwydd yn y gorffennol agos. Gan fy mod yn awr yn fam i ddau o blant, mae’r cwmwl gyda fy hen fam-gu a’r teulu yn Yr Almaen yn dod yn bwysicach fyth.”  

O’r Galon: Y Trên i Ravensbrück
Nos Fawrth, 26 Ionawr, 9.00pm, S4C
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C
 

Dathlu Cyfraniad Pennaeth

18 Rhagfyr 2009

Yn dilyn gwasanaeth am chwarter canrif fel prif-athrawes yn Ysgol Gynradd Mount Stuart mae Mrs Yvonne Scott yn ymddeol heddiw.  Meddai Mrs Scott "Nawr dwi'n dysgu plant i'r plant a fu yn yr ysgol ar y cychwyn, mae wedi bod yn brofiad ardderchog. Pan ddechreuais i yma tua cant o blant oedd yn yr ysgol i gyd llawer o'r plant o dras affro-caribiaidd nawr mae llawer mwy o blant Arabia a Somalia. Mae'n gymuned glos iawn ac mae wedi bod yn brofiad arbennig i fod yn rhan o'r gymuned yma."    

 

   

Tudalen 1 o 14