Newyddion Caerdydd - Teledu
Protest yn erbyn Llosgydd Gwastraff
21 Awst 2010
Bu protest tu allan i swyddfa Asiantaeth yr Amgylchedd am y bwriad i godi Llosgydd Gwastraff yn ardal Dociau Caerdydd. Bydd hwn yr un fwyaf o'i fath yng Nghymru ac yn creu ynni drwy losgi sbwriel. Mae pryderon am y datblygiad a meddai Andrea Storer, "Dwi'n byw yn Sblott ac mae gen i ddau o blant bach sy'n mynd i'r ysgol leol a dwi'n wir yn poeni am y llygredd fydd yn dod allan o'r llosgydd sbwriel a'r effaith fydd hynny'n cael ar iechyd y plant ac hefyd ar yr amgylchedd."
Ymgyrch Maes Chwarae Trelai
24 Gorffennaf 2010
Mae ymgyrch yn Trelai i droi hen lawnt fowlio yn faes chwarae i blant. Ar hyn o bryd does yr un lle addas i blant chwarae. Yn ôl Kathy Farleigh. un o'r rhieni, "Mae'r ardal yn edrych yn ofnadwy ond mae angen symud y ffens fel bod plant yn gallu chware ar y cae a chwarae pêl-droed." Mae ymgyrchwyr wedi cael cymorth cynllunwyr a pheintwyr i greu syniadau ar gyfer yr ardal.
Meddai Lisa Marie Bracey, rhiant, "Mae llawr o blant yn defnyddio'r ardal ond ddim mewn ffordd dda, does dim byd iddyn nhw wneud. Mae angen rhywbeth fel pêl-fasged neu rhywle i chwarae pêl-droed ar gyfer plant o bob oed."
Rheolau'r Gêm
12 Gorffennaf 2010
Mae siop gemau newdd wedi agor yn Arcêd y Castell. Perchnogion y siop newydd, Rheolau'r Gêm, yw Ian a Michelle Davis. Meddai Michelle "Roeddem yn chwilio am brosiect newydd ers dwy flynedd a doedd dim siop gemau arbennig yng Nghaerdydd. Os ydych am brynu gêm mae'n bwysig iawn i siarad â expert gêms. Roeddem am sicrhau fod digon o gemau Cymraeg a gemau i blant. Mae grŵp mawr o bobl sy'n hoffi chwarae gemau ac mae nhw'n cwrdd ar benwythnosau ac mae lot o gemau cwlt. Mae gemau newydd modern lliwgar ar gael nawr sy'n llawer o hwyl i chwarae."

Brwydr i Baradwys?
29 Mehefin 2010
Ar Wedi 3 roedd Huw Thomas yn siarad am ei lyfr ymchwil newydd am y dylanwadau ar dwf ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru. Meddai Mr Thomas, cyn-brifathro Ysgol Gyfun Glantaf, "Doedd neb wedi dadansoddi y dylanwadau ar dwf yr ysgolion Cymraeg sy'n gyfrifol, yn fy marn i, am achub yr iaith. Does dim amheuaeth fod rhieni a gwleidyddion wedi brwydro i gael ysgol ar ôl ysgol ac mae'r llyfr yn rhestru'r holl frwydro sydd wedi bod. Dwi yn credu fod rhieni y de-ddwyrain yn Gymry pybyr a'r prif reswm pam danfonon nhw eu plant i ysgol Gymraeg oedd oherwydd ei bod nhw'n diogelu'r Gymraeg"

Dathlu 40 Mlynedd
07 Mai 2010
Mae Clwb Pêl-droed Cymry Caerdydd yn dathlu 40 mlynedd ac eleni mae nhw wedi ennill y Gynghrair ac mae nhw yn ffeinal Cwpan Her Cymdeithas Pêl-droed Cymru am y tro cyntaf. Rhodri Charles a Dylan Jones fu'n sôn am hanes y Clwb ar Wedi 3. "Mae'r Clwb yn griw gymdeithasol yn ogystal a bod yn glwb pêl-droed, mae rhan fwyaf o'r aelodau yn dod o'r Gogledd. Mae dau dîm gyda ni erbyn hyn ac mae criw eitha mawr yn cwrdd yn gymdeithasol. Mae croeso i unrhywun ymuno. Yn hanesyddol mae llawer o bobl wedi symud yn ôl i'w hardaloedd gwreiddiol ar ôl chwarae i'r clwb ond yn y dyfodol fydd rhaid i'r clwb edrych i weld os oes modd codi safon y chwarae. Rydym yn gobeithio sefydlu tîm ieuenctid gyda myfyrwyr o'r chweched dosbarth. Yn gyffredinol mae pawb yn y tîm yn siarad Cymraeg sy'n achosi trafferth i dimoedd eraill o Gaerdydd sydd ddim yn gwybod beth sy'n digwydd!"

Clwb Rygbi ar y Brig
05 Mai 2010
O dîm rygbi yr Urdd a sefydlwyd yn 1963 cafodd Clwb Rygbi Cymry Caerdydd ei ffurfio ar ddiwedd y 60'au. Yn ôl y Llywydd, Martyn Williams, "Doedd dim gymaint o fewnlifiad o bobl i Gaerdydd yr adeg hynny cyn S4C a Datganoli. Erbyn hyn mae'n rhoi ffynhonell i bobl sy'n dod i'r ddinas i siarad Cymraeg mae o hefyd wedi galluogi hen aelodau o'r clwb i fynd i wahanol lefydd yng Nghymru i helpu sefydlu clybiau." Meddai Alun Guy, un o aelodau tîm gwreiddiol yr Urdd, "Roedd o'n hynod mewn ffordd - y tîm cyntaf i ddefnyddio'r Gymraeg ar y maes ac roedd y pobl oedd yn chwarae'n erbyn ni yn gwylltio braidd! Ges i'm mygwth sawl gwaith."
Tudalen 1 o 23
