Digwyddiadau
Caerdydd
Digwyddiadau
-
09/09/2010
Dydd Iau. Am: 7.30. Clwb Gwawr Caerdydd. ‘Dathliad Tymor Newydd.’ Noson gymdeithasol lan llofft yn nhafarn y Cricketers (‘Tafarn y Cadno’ gynt) am 7.30pm. Croeso mawr i bawb!
-
09/09/2010
Dydd Iau. Am: 7.30. Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. ‘Salmau Cân.’ Siaradwr: Parch. Gwynn ap Gwilym. Yng nghapel Bethel, Rhiwbina, am 7.30pm.
-
12/09/2010
Dydd Sul. Am: ei g. Sefydliad Aren Cymru. Ras 10k a 2k Caerdydd, a noddir gan HSBC. Gan y bydd y digwyddiad yn dathlu ei 25 mlwyddiant eleni, bydd elusennau eraill yn ymuno, gan gynnwys yr elusen canser pancreatig, ‘Amser Justin Time’, a sefydlwyd gan y gantores Shân Cothi er cof am ei gŵr, Justin, yn ogystal â Diabetes UK Cymru. Manylion pellach: Tristan Williams (029-2034-3940 / 07590-216-784; tristan@kidneywales.com).
-
17/09/2010
Dydd Gwener. Am: 8.00. Cylch Cadwgan. Y Prifardd John Gwilym Jones yn siarad ar y testun ‘Llenyddiaeth mewn Emyn’ yn y Ganolfan, Tabernacl, Yr Efail Isaf am 8.00pm. Cydnabyddir cefnogaeth yr Academi Gymreig.
-
20/09/2010
Dydd Llun. Am: 7.30. Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Noson yng nghwmni Eleri Rogers yn festri Bethany, Rhiwbina am 7.30pm.
-
24/09/2010
Dydd Gwener. Am: 7.00. Cylch Llyfryddol Caerdydd. Cyfarfod agoriadol y Cylch, yn Ystafell 0.31, Adeilad y Dyniaethau, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, am 7.00pm. Cydnabyddir nawdd yr Academi. Croeso cynnes i aelodau newydd.
-
24/09/2010
Dydd Gwener. Am: 7.30. Cyngerdd gan ‘Gantorion Ardwyn Caerdydd’ yn Eglwys Dewi Sant, Cilgant Sant Andreas, am 7.30pm. Croeso cynnes i bawb.
-
01/10/2010
Dydd Gwener. Am: 7.30. Cymrodorion Caerdydd. Noson Arwisgo’r Llywydd newydd, yr Athro John Gwynfor Jones. Bydd ef yn trafod ‘Gweinidogion yr efengyl a’r ymwybyddiaeth ddinesig Gymreig yng Nghaerdydd 1880–1939’. Yng Nghapel y Crwys am 7.30pm. Croeso i bobl nad ydynt yn aelodau o’r Cymrodorion.
-
04/10/2010
Dydd Llun. Am: 7.30. Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd yng Ngwesty Churchills am 7.30 pm. Siaradwr: Brynach Parri. Manylion pellach: Tony Couch (029-2075-3625 neu ajcouch@yahoo.co.uk).
-
05/10/2010
Dydd Mawrth. Am: 7.00. Noson agoriadol cyfarfod misol (6 chyfarfod dros y gaeaf) sy’n trafod cynnyrch llenyddol Eisteddfod Genedlaethol 2010. Yn festri capel Tonyfelin, Caerffili, am 7.00pm. Manylion pellach gan Dr E. Wyn James (029-2062-8754; JamesEW@caerdydd.ac.uk). Mae nifer o aelodau’r dosbarth yn dod o Gaerdydd – croeso i ragor!
-
14/10/2010, am 3 dydd Theatr Genedlaethol Cymru
Dydd Iau. Am: 8.00yh. Yn: Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.. Gwlad yr Addewid Ed Thomas. Cyfieithiad Sharon Morgan o 'House of America'
-
22/10/2010
Dydd Gwener. Am: 7.00. Cylch Llyfryddol Caerdydd. Y Prifardd Glenys M. Roberts yn trafod Cerddi’r Goron 2010, yn Ystafell 0.31, Adeilad y Dyniaethau, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, am 7.00pm. Cydnabyddir nawdd yr Academi.
